27.11.05

2005- Haf Prysur

Adref ar Ynys Môn dechreuodd yr Haf yn brysur gyda lot o ymarfer a hefyd ambell i berfformiad – ar y sgwâr ym Miwmares, yn Melin Llynon, gwneud twmpath ym mhriodas un o’n haelodau ac hefyd croesi’r bont i Ŵyl Llandudno ac i Gaerdydd ar gyfer penllanw gweithgaredd dawns Cymru bob blwyddyn yng Ngŵyl Ifan.

Wedyn daeth yr Eisteddfod i’r Faenol. Yn ogystal â chystadlu mewn dwy gystadleuaeth buom hefyd yn perfformio ar lwyfannau ar y maes, arddangos yn y Neuadd Ddawns a Phabell yr Urdd a chymeryd rhan mewn Anterliwt yn y Theatr Fach gan gyflwyno rhaglen gynhwysfawr yn y mannau hyn i gyd. Mae’n debyg mai un o olygfeydd rhyfeddaf yr Eisteddfod oedd ein gweld yn ymlwybro o’r Theatr i’r llwyfan agored ac yn ôl trwy’r mwd ar y Sadwrn cyntaf mewn gwisg lawn gan geisio cadw’n sgertiau allan o’r mwd, a hynny’n dangos ein pantalŵns pen-glin i’r byd. Diolch byth nad oes llun o’r olygfa hynod!
Yn union ar ôl yr Eisteddfod roeddem wedyn yn cychwyn ar daith i Ffrainc – i Saujon yn ardal y Charente Maritime i Ŵyl ddawnsio. ‘Roedd dau ddwsin o ddawnswyr a phedwar offerynnwr ar y daith – heb anghofio Ioan bach yn cario’r faner wrth gwrs! Roedd bron i hanner y criw o dan 25 oed ac mae mor braf gweld y to ifanc yn dangos y fath frwdfrydedd.
Cawsom bum diwrnod hyfryd yng Nghwmni’r tîm lleol – y “Bategails de Saintonge”, tîm a ymwelodd â ni yn Ynys Môn wyth mlynedd yn ôl ac y bu Dawnswyr Môn yn ymweld a hwy o’r blaen y flwyddyn ganlynol. Cadwyd y cysylltiad ac roedd yn braf bod yn ôl yno, y tro yma gyda grŵp arall o Ffrancwyr o Tournus yn ardal Bwrgwyn yn Nwyrain Ffrainc a hefyd criw arall o ddawnswyr ifanc o Groatia. Buom i gyd yn dawnsio a gorymdeithio yn y strydoedd, yn arddangos mewn gwahanol drefi, mewn canolfannau ac ar lwyfannau awyr agored ac yn cymeryd rhan mewn offeren yn eglwys hynafol Pont l’Abbe. ‘Roedd y noson o ddawnsio dan y sêr yn y parc yn Saujon a’r tân gwyllt anhygoel wedyn yn brofiad y byddwn i gyd yn ei drysori. Ond nid perfformio i ddiddanu eraill yn unig yr oeddem. Cawsom ddigon o gyfle i fynd o gwmpas i weld y wlad, mynd i’r traeth ac ymweld a distyllfa “pineau” ac yn goron ar y cwbwl noson o wledda a cherddori a dawnsio cymdeithasol gyda’r timoedd eraill oedd yn bleser pur i ni i gyd. Rhaid dweud mai un o’r pleserau pennaf i mi, fel un o aelodau hynaf y tîm oedd gweld yr ieuenctid yn cymdeithasu gyda’r Ffrancwyr a’r Croatiaid, yn gwneud ffrindiau ond hefyd yn taflu eu hunain i fwynhau y cyd-ddawnsio. Wnaeth ambell un ddim eistedd i lawr trwy’r noson!
Ond nid dim ond yr ifanc oedd yn dawnsio’n ddi-baid, ‘roedd y rhai hyn ohonom fel petaem yn cael rhyw egni newydd o rywle, a neb yn fwy na’n aelod hynaf, Owen Huw Roberts sydd wedi bod yn dawnsio ers hanner can mlynedd bellach. Dechreuodd ddawnsio pan yn athro ifanc yn Sir Ddinbych yn mis Medi 1955 ac mae yn ysbrydoliaeth heddiw i ni yn Nawnswyr Môn.
Wedi dod adref ‘ rydym wedi cychwyn ar dymor newydd o ddawnsio gyda phrynhawn braf o ddawnsio ar sgwâr Biwmares un waith eto ac edrychwn ymlaen at aeaf prysur ac at daith arall y flwyddyn nesaf.

2005- A Busy Summer

At home on Anglesey the Summer began with lots of rehearsals and quite a few performances – in the Square in Beaumaris, at Melin Llynon, and also crossing the bridge to dance at Llandudno Festival and to Cardiff for Gŵyl Ifan for the high point of the dance year in Wales. We also celebrated the wedding of one of our members with a “twmpath”.

Then the Eisteddfod came to the Faenol. As well as competing in both main competitions we also performed on the open stages on the field, in the dance pavilion and at the Urdd stand and also took part in an Anterliwt in the Little Theatre, presenting a varied programme in each venue. I think one of the strangest sights on the Eisteddfod field was a group of the girls trying to get to and from the Theatre to the open stage through the mud on the first Saturday morning in full costume and trying to keep our skirts out of the mud, thus showing our knee-length pantaloons to the world. Thank goodness there was no photographer on hand!

After the Eisteddfod we left for our journey to France – to Saujon in the Charente Maritime region for a dance festival. There were twelve couples of dancers and a band o four, and not forgetting our mascot, Ioan carrying the flag! Almost half the group was under the age of 25 and it’s so good to witness the enthusiasm shown by the youngsters.
We had a wonderful five days hosted by the local team – the “Bategails de Saintonge”, a group which visited us in Anglesey eight years ago and which Dawnswyr Môn had then visited the following year. The connection had been maintained and it was good to be back, this time also in the company of another French group from Tournus in Burgundy and also a group of young dancers from Croatia. We all danced and paraded in the streets, took part in concerts in the open air and in halls and also participated in a mass in the old church in Pont l’Abbe. The night of dancing under the stars in the park in Saujon and the magnificent firework display that ended the evening will stay in our memories for a long time. But we didn’t just dance to entertain others. There were plenty of opportunities to see a bit of the countryside, to go to the beach and to visit a “pineau” distillery and as a highpoint of our visit , a night of feasting and music and dancing with the other groups. To me, as one of the older members of the group one of the most pleasing elements of this wonderful evening was to see our younger members making friends with the French and Croatian youngsters and also throwing themselves into the dancing with such gusto.
But it wasn’t just the youngsters who danced all night – the older members of the group seemed to find other reserves of energy , and no one more than our oldest member, Owen Huw Roberts who has been dancing for fifty years. He started dancing as a young teacher in Denbighshire in September 1955 and he is a constant inspiration to us in Dawnswyr Môn.
After returning home we also returned to the square in Beaumaris to begin a new season of dancing and we are looking forward to another busy year and some more travelling next year.

Trefn Newydd ar Gyfer Newyddion!

Er mwyn cael ychydig mwy o ddefnydd allan o'r wefan, rydym ni wedi sefydlu'r dudalen newyddion hon y gall pob aelod o Ddawnswyr Môn ei haddasu, ac ychwanegu ati fel y mynnoch. Holwch Gwenno am fanylion a chyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn.

2003 - Awst - Taith i Ffrainc

Taith i Ffrainc

2003 - Awst - Taith i Wlad Pwyl

Taith i Wlad Pwyl

2003 - Ionawr - Noson i ddiolch i Islwyn Williams am ei ymroddiad dros y blynyddoedd

Noson i ddiolch i Islwyn Williams am ei ymroddiad dros y blynyddoedd

2001 - Awst - Ymweliad y Norwyaid

2001 - Ionawr - Dathlu 21 oed yn Llangollen

1991 - 2000 - Hanes y Dawnswyr